Gweithio yn SEWBReC
Swyddi Gwag Presennol
Nid oes gennym unrhyw swyddi gwag yn SEWBReC ar hyn o bryd.
Pan fyddwn yn recriwtio, rydym yn gwneud hynny drwy www.environmentjob.co.uk.
Gwirfoddoli yn SEWBReC
Mae SEWBReC weithiau mewn sefyllfa i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn y swyddfa a / neu yn y cartref, un diwrnod yr wythnos yn gyffredinol. Yn ystod y pandemig bydd pob rôl yn y cartref.
Sylwer, yn anffodus, ar hyn o bryd nid ydym yn gallu darparu ar gyfer gwirfoddolwyr llawn amser, na phrofiad gwaith / lleoliadau myfyrwyr.
Mae’r tasgau gwirfoddoli cyffredin yn cynnwys:
- Digideiddio cofnodion clybiau adar lleol i Microsoft Excel
- Digideiddio setiau data eraill, fel llyfrau nodiadau bywyd gwyllt, gan ddefnyddio Excel neu feddalwedd mwy arbenigol fel Recorder 6
- Diweddaru gwefan SEWBReC
- Helpu gyda pharatoi ar gyfer digwyddiadau
Os ydych chi’n teimlo y gallech ein helpu ni mewn ffyrdd eraill, cysylltwch â ni gyda'ch syniadau.
Mae gwirfoddoli yn SEWBReC yn cynnig y cyfle i gael cipolwg ar y gwaith o redeg Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Leol o ddydd i ddydd ac yn rhoi sylfaen ardderchog mewn technegau mewnbynnu data bywyd gwyllt. Gall gwirfoddolwyr ymroddedig ddatblygu i ddefnyddio meddalwedd arbenigol gan gynnwys rhaglenni GIS.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, cysylltwch ag info@sewbrec.org.uk.
Gwirfoddoli Mewn Mannau Eraill
Mae gwirfoddolwyr SEWBReC yn gweithio yn y swyddfa i gyd. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn yr awyr agored, mae llawer o'n sefydliadau partner yn cynnig cyfleoedd i gael profiad gwaith gwirfoddol yn y sector amgylcheddol. Mae'r gwaith hwn yn amrywio o waith cadwraeth ymarferol i gymryd rhan mewn arolygon rhywogaethau. Edrychwch ar ein tudalen Grwpiau Bywyd Gwyllt Lleol am fanylion sefydliadau addas yn eich ardal leol. Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn cymryd rhan yn rhai o’r digwyddiadau sydd wedi’u rhestru ar ein tudalen Digwyddiadau, gyda llawer ohonynt yn cynnwys elfennau o hyfforddiant a’r cyfle i feithrin amrywiaeth o sgiliau. Mae gennym hefyd wybodaeth am arolygon a ffyrdd eraill o gysylltu â byd natur ar ein tudalen Gweithgareddau Bywyd Gwyllt.
Cymryd Rhan mewn Cofnodi
Ffordd hynod werthfawr arall o gymryd rhan yn y gwaith o warchod a diogelu eich bioamrywiaeth leol yw cofnodi'r bywyd gwyllt rydych yn ei weld. Wedi'r cyfan, does dim posib i ni warchod rhywbeth nad ydym yn gwybod amdano. Ewch i'n tudalen Cyflwyniad i Gofnodi am awgrymiadau ar gyfer sut i ddechrau arni.