Mae Grŵp Amffibiaid ac Ymlusgiaid Gwent yn cwmpasu Awdurdodau Unedol Caerdydd, Casnewydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Tor-faen, Sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, ac mae'n aelod cyswllt o ARG-UK, sef corff cynrychioliadol pob un o Grwpiau Amffibiaid ac Ymlusgiaid y DU.
Amcanion y grŵp yw:
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno, cwblhewch a dychwelwch ffurflen aelodaeth at Mel Dodd (ysgrifennydd GARG). At ddibenion yswiriant, mae'n ofynnol hefyd i wirfoddolwyr gwblhau a dychwelyd y ffurflen Cytundeb Gwaith Gwirfoddol hon.
Os ydych wedi gweld unrhyw ymlusgiaid neu amffibiaid (brodorol neu beidio!) yn y de-ddwyrain, anfonwch eich cofnodion atom. Gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio'n ffurflen gofnodi ar-lein. Cofiwch, mae gennym ddiddordeb mewn unrhyw gofnodion, hyd yn oed grifft llyffant! Mae rhestr Rhywogaeth â Blaenoriaeth UK BAP yn cynnwys y rhan fwyaf o'n hymlusgiaid brodorol bellach.
Mae gan wefan herpetofauna rywfaint o wybodaeth adnabod da, yn ogystal â gwefan NARRS yn ei phecynnau arolwg y gellir eu lawrlwytho.
I gael rhagor o wybodaeth gyfredol am gyfarfodydd, arolygon a hyfforddiant, ewch i fersiwn Saesneg y dudalen hon.