Mae SEWBReC yn gweithredu set o bolisïau a gweithdrefnau i lywio'i gweithgareddau a sicrhau cysondeb o ran ei gweithrediadau.
Addaswyd ein polisïau a'n gweithdrefnau o ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol yn ei gyhoeddiadau ar 'Running a Local Record Centre' [mae copïau ar gael am £30 yn cynnwys postio a phacio o Ysgrifenyddiaeth Ymddiriedolaeth y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol - E-bost: support@nbn.org.uk].
Trwy weithredu'r polisïau a'r gweithdrefnau hyn, mae SEWBReC yn bodloni'r holl 'Swyddogaethau Hanfodol', a nifer gynyddol o 'Swyddogaethau Uwch' Canolfan Gofnodion Leol fel y nodwyd yn Natganiad Sefyllfa'r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol am Ganolfannau Cofnodion Lleol (Cliciwch yma i lwytho i lawr destun llawn y datganiad sefyllfa hwn).
Mae Polisïau a Gweithdrefnau cyfredol SEWBReC yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â fformat a chynnwys Datganiad Sefyllfa'r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol am Ganolfannau Cofnodion Lleol ac i adlewyrchu datblygiadau a gwelliannau yn ein gwasanaethau ers ein lansiad ym mis Awst 2005.
Mae detholiad o bolisïau allweddol ar gael i'w llwytho i lawr yn eu fformat cyfredol. Bydd datganiad polisi llawn SEWBReC ar gael drwy'r wefan hon pan fydd ar gael.
Nodwch nad oes fersiynau Cymraeg o'r dogfennau hyn ar gael ar hyn o bryd.
Dychwelyd i Amdanom Ni